Ar y teledu a'r radio
Mae ein rhaglenni teledu lleol ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ ONE Wales & ÃÛÑ¿´«Ã½ Wales HD, ÃÛÑ¿´«Ã½ TWO Wales, ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer ac S4C. Rydym hefyd yn cynnig dwy orsaf radio genedlaethol, ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru yn Gymraeg a ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Wales yn Saesneg.
Mae ein portffolio o raglenni radio i'r rhwydwaith yn cynnwys ffefrynnau megis The Choir a Composer of the Week i Radio 3, ac amryw gynhyrchiad drama i Radio 4.
Ar gyfer teledu, gyda chwmnïau annibynnol yng Nghymru rydym yn cynhyrchu rhaglenni i sianeli digidol y ÃÛÑ¿´«Ã½ sef ÃÛÑ¿´«Ã½ Three, Four a CÃÛÑ¿´«Ã½, ac mae ein cynyrchiadau teledu rhwydwaith, gan gynnwys Doctor Who a Casualty, yn denu miliynau o wylwyr drwy'r byd i gyd.
S4C
Mae gennym berthynas unigryw gyda S4C ac rydym yn cyfrannu tua 540 awr o raglenni ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru Wales at amserlen gyfan S4C bob blwyddyn, wedi ei hariannu gan y drwydded deledu. Adnewyddodd y ÃÛÑ¿´«Ã½ ac S4C a thrwy hyn y mae rhaglenni'r ÃÛÑ¿´«Ã½ i S4C yn cael eu cytuno.
Mae Ymddiriedolaeth y ÃÛÑ¿´«Ã½ hefyd yn sefydlu cylch gwaith ar gyfer cynnyrch teledu iaith Gymraeg y ÃÛÑ¿´«Ã½. Mae'r ddwy broses yma yn sicrhau bod rhaglenni'r ÃÛÑ¿´«Ã½ ar S4C yn cyfrannu'n uniongyrchol i strategaeth rhaglenni S4C gan ddarparu'r dibenion cyhoeddus sydd eu hangen gan y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn ei Siarter a'i Gytundeb.
Ar-lein
Mae gwasanaethau ar-lein ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru yn cyrraedd dros dair miliwn o ddefnyddwyr unigryw bob wythnos, gyda chynnwys yn cael ei weld ar gyfrifiaduron, setiau teledu â chyswllt â’r we, ffonau symudol a dyfeisiau tabled.
Ar gyfer fersiiynau Cymru a Wales o ÃÛÑ¿´«Ã½ Online, mae’r gwasanaeth yn darparu cynnwys Newyddion a Chwaraeon, iPlayer, yr Hafan, Bitesize, Tywydd, Teithio, Radio a Cherddoriaeth, CÃÛÑ¿´«Ã½ a CBeebies.
Mae cyfryngau cymdeithasol ar lwyfannau megis a yn dod yn fwyfwy pwysig, gyda chynnydd enfawr yn y defnydd ohonyn nhw dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae Cymru Fyw hefyd yn darparu golwg unigryw ar Gymru yn Gymraeg.
Ynghyd â chynnwys lleol, mae ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru hefyd yn cynhyrchu cynnwys digidol ar gyfer cynyrchiadau rhwydwaith, o Doctor Who a Sherlock i Crimewatch a Wizards vs Aliens.
Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y ÃÛÑ¿´«Ã½
Ers 90 mlynedd a mwy, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y ÃÛÑ¿´«Ã½ (ÃÛÑ¿´«Ã½ NOW) wedi bod yn rhan ganolog o fyd cerddoriaeth yng Nghymru. Dyma’r unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, ac mae’n perfformio cyngherddau a darllediadau byw gydag arweinyddion ac unawdwyr blaenllaw, gan gynnwys y Prif Arweinydd Ryan Bancroft. Mae ÃÛÑ¿´«Ã½ NOW yn falch o ddathlu diwylliant Cymru ac mae’n rhoi llwyfan i gerddoriaeth a thalentau lleol, sy’n aml yn perfformio yn Gymraeg. Mae hefyd yn mynd â cherddoriaeth i ysgolion, i ysbytai ac i gymunedau o Fôn i Fynwy, gan ysbrydoli cerddorion y dyfodol drwy weithdai a gwaith yn y gymuned. Mae’r gerddorfa’n ymddangos yn rheolaidd ym Mhroms y ÃÛÑ¿´«Ã½ ac yng nghystadleuaeth ÃÛÑ¿´«Ã½ Canwr y Byd Caerdydd, ac fe gaiff ei pherfformiadau eu darlledu ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Yn ogystal â chynnal cyngherddau a digwyddiadau, mae ÃÛÑ¿´«Ã½ NOW hefyd yn recordio cerddoriaeth ar gyfer rhaglenni teledu poblogaidd fel Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen. Yn ei chartref, sef Neuadd Hoddinott y ÃÛÑ¿´«Ã½ ym Mae Caerdydd, mae ÃÛÑ¿´«Ã½ NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf sydd â chamerâu ar gyfer ffrydio’n fyw a darlledu ar y teledu er mwyn mynd â cherddoriaeth ÃÛÑ¿´«Ã½ NOW i gynulleidfa ehangach ym mhob cwr o Gymru a’r byd! Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn .