Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Gweini sglodion yng Nghrymych

Sgwrs gyda Sioned Phillips sydd newydd agor siop pysgod a sglodion yng Nghrymych. Sioned Phillips talks about opening a new fish and chip shop in Crymych, Pembrokeshire.

Sgwrs gyda Sioned Phillips sydd newydd agor siop pysgod a sglodion Cegin 24 yng Nghrymych, Sir Benfro.

Hefyd, Rhodri Manod Owen, Rheolwr Fferm Coleg Glynllifon ger Caernarfon sy'n sôn am y cyfnod prysur ar fferm y coleg yn ystod y cyfnod ŵyna.

A Meinir Evans o Gwmann, sefydlodd gwmni Hathren Brownies yn ystod y cyfnod clo, sy'n egluro sut y mae'r cwmni wedi tyfu ac esblygu ers hynny.

Y newyddion diweddaraf o'r martiau anifeiliaid gyda Glesni Phillips o Hybu Cig Cymru, a Linda Jones, Rheolwr Cenedlaethol FCN Cymru sy'n adolygu'r straeon yn y wasg.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 16 Chwef 2025 07:00

Darllediad

  • Sul 16 Chwef 2025 07:00