Main content
Bydd y rhaglen yma ar gael yn fuan ar ôl cael ei darlledu

Wyau Pasg Ynys Môn

Terwyn Davies sy'n clywed hanes Richard Holt, sy'n cynhyrchu ŵyau Pasg ar Ynys Môn. Terwyn Davies chats to Richard Holt, who produces Easter eggs in his new factory on Anglesey.

Ar ddydd Sul y Pasg, Terwyn Davies sy'n clywed hanes Richard Holt, sy'n cynhyrchu ŵyau Pasg ar Ynys Môn, yn ei ffatri newydd yn Llangefni.

Hefyd, ar ddechrau gwyliau'r Pasg, Glyn Davies o Bartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru sy'n trafod sut y gall teuluoedd gwledig wneud y fferm yn lle mwy diogel i blant yn ystod y gwyliau.

Sgwrs hefyd gydag Erin McNaught o ardal y Bala, enillydd gwobr Ffermwyr Dyfodol Cymru yng ngwobrau LANTRA yn ddiweddar.

A'r Parchedig Wyn Maskell, Ymgynghorydd Bywyd Gwledig Esgobaeth Tyddewi sy'n adolygu'r straeon gwledig yn y wasg.

Dyddiad Rhyddhau:

27 o funudau

Ar y Radio

Yfory 07:00

Darllediad

  • Yfory 07:00