Mandy Watkins
Beti George yn holi Mandy Watkins, cynllunydd cartref . Beti George interviews Mandy Watkins, Interior designer and presenter of Wales ÃÛÑ¿´«Ã½ of the Year.
Mandy Watkins, cynllunydd cartref a chyflwynwraig ar gyfres S4C Dan Do, Hen DÅ· Newydd a 'ÃÛÑ¿´«Ã½ Wales’ ÃÛÑ¿´«Ã½ of the Year' yw gwestai Beti George.
Cafodd ei magu yn y Fali, ar Ynys Môn mewn tŷ o’r enw Graceland, a hynny gan fod ei rhieni yn hoff iawn o'r canwr Elvis, ac mae ganddi atgofion hapus iawn o blentyndod yn gwylio ffilmiau Elvis ar y teledu gyda'i theulu.
Doedd bod yn gynllunydd cartrefi ddim yn rhan o'r cynllun gwreiddiol, fe raddiodd mewn cymdeithaseg a busnes ym Mhrifysgol Bangor. Bu'n gweithio gyda chwmni gwerthu gwyliau yng Nghaer a hefyd i gynllunydd cartrefi. Bu'n gweithio gyda Cyngor Cefn Gwlad Cymru am 10 mlynedd ac fe gafodd gyfnod yn labro i'w thad, cyn adnewyddu cartref iddi hi a'i theulu. Mae wedi sefydlu busnes ei hun a'r Ynys Môn, Space Like This.
Mae'n trafod cael ei bwlio yn yr ysgol, pwysigrwydd cwnsela a'i chyfnod yn dioddef o bulimia.
Mae hi'n Fam i 3, ac yn rhannu straeon ei bywyd prysur ac yn dewis 4 can yn cynnwys un gan Amy Winehouse, Elvis a Bryn Fon.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
Elvis Presley & The Jordanaires
Viva Las Vegas
- Elvis Presley - The 50 Greatest Hits.
- RCA.
-
Bryn Fôn
Un Funud Fach
- Dawnsio Ar Y Dibyn.
- CRAI.
- 3.
-
Mark Ronson
Valerie (feat. Amy Winehouse)
- Now That's What I Call 30 Years.
- EMI TV.
- 19.
-
Billie Eilish
Birds Of A Feather
- HIT ME HARD AND SOFT.
- Darkroom/Interscope.
Darllediadau
- Dydd Sul Diwethaf 18:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
- Dydd Iau 18:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
Archif Beti a'i Phobol
Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.
Podlediad
-
Beti a'i Phobol
Sgyrsiau gyda phobl diddorol. Interviews with interesting people