Main content

Yr Eos yng Nghaergaint (efallai)

Yr Eos yng Nghaergaint (efallai)

Es i fy ngwely'r un pryd a’m mab,
am saith yr hwyr, ar ddechrau haf,
sydd ddim yn hwyr yr adeg honno,
roedd golau dydd yn dal i oleuo
rhimyn gwyn rhwng llen a wal,
a’r adar yn y coed yn dal
i ganu, ond roedd y mab bach wedi blino.
Gorweddais yno’n gwrando arno’n
rhestru’i fyd, gorweddais yno’n
dweud dim byd, am gyfnod maith,
mewn stafell boeth, mewn gwely llaith,
nes dechreuodd nos grynhoi
yn byllau du o dan y bondoi,
A nes clywais, rywle draw,
can a oedd fel pe bai llaw
y nos ei hun wedi’i gosod arna’i,
Ac o’i chlywed, es i gysgu.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

38 eiliad