Fasa Trunds di chwarae i Uganda!
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n ystyried syniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru i newid y rheolau ynglŷn â phwy sy'n gymwys i ennill cap cenedlaethol.
Ydi byw yng Nghymru am bum mlynedd yn ddigon i fod yn gymwys i ennill cap cenedlaethol? Dyna'r brif drafodaeth ymysg Dyl, Ows a Mal yn dilyn ymgais Cymdeithas Bêl-droed Cymru i newid y rheolau presennol er mwyn gallu cynnwys Matt Grimes yn y garfan.
Mae'r tri hefyd yn trafod y cyhoeddiad ynglŷn â pha glybiau fydd yn ymuno gyda'r Cymru Premier pan fydd y gynghrair genedlaethol yn ehangu i gynnwys 16 tîm yn nhymor 2026-27. Ac mae Dyl yn esbonio pam oedd o wedi gwylltio'n gacwn ddydd Sadwrn.
Podcast
-
Y Coridor Ansicrwydd
Owain Tudur Jones, Malcolm Allen a Dylan Griffiths yn rhoi'r byd pêl-droed yn ei le.