Main content

Brooks yn achub Cymru (ac Allen) yn Skopje

Gêm gyfartal ddramatig Cymru yng Ngogledd Macedonia yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026 sy'n cael prif sylw Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen.

Wel am ddiweddglo yn Skopje! Camgymeriad hollol anarferol Joe Allen yn rhoi gôl ar blât i Ogledd Macedonia, cyn i David Brooks fanteisio ar ddau gamsyniad amddiffynnol gan y tîm cartref i achub gêm gyfartal oedd perfformiad Cymru yn ei haeddu. Hyn i gyd wedi'r cloc basio 90 munud!

Felly, mae record ddiguro Craig Bellamy fel rheolwr yn parhau, a Chymru yn gyfartal ar frig y grŵp gyda Gogledd Macedonia wedi dwy gêm. Digon i'r 'ogia drafod, ac yn rhoi amser i Owain "ro’n i'n barod i gwffio" Tudur Jones setlo lawr.

Release date:

Available now

53 minutes

Podcast