Dim ond mis sydd i fynd o'r tymor!
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcom Allen sy'n rhagweld diweddglo llawn tensiwn i'r tymor i Gaerdydd a Wrecsam... am resymau gwahanol iawn.
Mwyaf sydyn, mae'r tymor wedi cyrraedd y pedwar wythnos olaf. Ac mi fydd hi'n ddiweddglo llawn tensiwn i Gaerdydd a Wrecsam, wrth iddyn nhw frwydro am bwyntiau gwerthfawr ar resymau gwahanol iawn.
Mae Wrecsam yn parhau tri phwynt yn glir o Wycombe yn y ras am yr ail safle yn Adran Un, ond wedi chwarae un gêm yn fwy. Be sydd orau adeg yma o'r tymor felly? Pwyntiau ar y bwrdd ta tynged yn nwylo eich hun? Wrth reswm, mae yna wahaniaeth barn rhwng Ows a Mal.
Mae'r ddau hefyd wedi anghytuno ers tro am dynged Caerdydd tymor yma. Ond ar hyn o bryd, does 'na fawr o dystiolaeth i awgrymu mai llwyddo i aros yn y Bencampwriaeth fydd yr Adar Gleision.
Ac ydi Rhian Wilkinson yn iawn i ofyn am fwy o gefnogaeth i ferched Cymru yng ngemau Cynghrair y Cenhedloedd?
Podcast
-
Y Coridor Ansicrwydd
Owain Tudur Jones, Malcolm Allen a Dylan Griffiths yn rhoi'r byd pêl-droed yn ei le.