ÃÛÑ¿´«Ã½

Pam mae’n rhaid i fi ddarparu gwybodaeth bersonol wrth gofrestru?

Diweddarwyd: 19 Medi 2024

Rydyn ni’n rheoli eich manylion personol yn ofalus iawn. Felly, rydyn ni eisiau i chi ddeall pam ein bod ni’n gofyn am bob darn o wybodaeth a sut byddwn ni’n ei ddefnyddio i wneud y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn well.

E-bost/Enw defnyddiwr

Os ydych chi'n 13 oed neu'n hÅ·n byddwn yn gofyn am eich cyfeiriad e-bost. Os ydych chi o dan 13 oed byddwn yn gofyn i chi greu enw defnyddiwr, sy'n wahanol i enw arddangos. Cewch ragor o wybodaeth am enwau arddangos fan hyn.

Rydyn ni’n defnyddio hwn i wirio eich bod chi’n rhywun go iawn (nid robot) ac am resymau diogelwch, fel mai dim ond chi all gael mynediad at eich cyfrif ÃÛÑ¿´«Ã½. Ni fydd neb arall yn gallu gweld eich e-bost neu enw defnyddiwr.

Mae eich cyfeiriad e-bost hefyd yn gadael i chi ailosod eich cyfrinair os byddwch yn ei anghofio. Ac mae’n golygu y gallwn gysylltu â chi os oes angen i ni ddweud wrthych am rywbeth newydd, fel newid i’n telerau defnyddio.

Cyfrinair

Mae eich cyfrinair yn cadw eich cyfrif yn ddiogel, fel na all pobl eraill gael mynediad ato. Gwnewch yn siŵr ei fod yn anodd ei ddyfalu ac yn cynnwys:

  • Wyth neu ragor o nodau cyfrifiadurol
  • O leiaf un llythyren
  • O leiaf un rhif neu symbol.

Dyddiad geni

Pan ydych chi'n cofrestru am y tro cyntaf, rydyn ni'n gofyn am eich dyddiad geni. Mae hyn er mwyn i chi allu defnyddio rhannau o'r ÃÛÑ¿´«Ã½ sy'n addas ar gyfer eich oedran. Er enghraifft, dydyn ni ddim yn caniatáu oedolion i bostio negeseuon ar fwrdd negeseuon i blant. Mae hyn hefyd yn ffordd i'r ÃÛÑ¿´«Ã½ sicrhau eich bod chi'n hÅ·n na 18 oed.

Mae hefyd yn golygu y gallwn weld sut mae pobl o oedrannau gwahanol yn defnyddio'r ÃÛÑ¿´«Ã½. Ynghyd â gwybodaeth am rywedd a lleoliad pobl, mae'n ein helpu i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud rhywbeth i bawb.

Mae gwybod eich dyddiad geni yn golygu y gallwn ni hefyd roi mwy o wybodaeth berthnasol i chi ar draws y ÃÛÑ¿´«Ã½ ac mewn unrhyw e-byst rydych chi'n gofyn amdanyn nhw wrth y ÃÛÑ¿´«Ã½.

Storio eich dyddiad geni

Os ydych chi'n 18 oed neu'n hÅ·n, dim ond eich blwyddyn geni y byddwn ni'n ei gadw, nid y dydd a'r mis. Mae hyn oherwydd ein bod ond yn cadw'r data rydyn ni ei angen i wneud y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn fwy personol i chi. Dydyn ni ddim angen dydd a mis eich pen-blwydd i wneud hynny, felly dydyn ni ddim yn eu cadw.

Os ydych o dan 18 oed a bod eich cyfrif wedi'i greu cyn 19/09/2024, byddwn yn cadw eich dyddiad geni llawn fel ein bod yn gwybod pryd y byddwch yn 18 oed. A phan fydd hynny'n digwydd, byddwn yn dileu'r diwrnod a'r mis o'n cofnodion.

Os ydych o dan 18 oed a bod eich cyfrif wedi’i greu ar ôl 19/09/2024, ni fyddwn yn dileu’r diwrnod a’r mis pan fyddwch yn 18 oed.

Tu allan i’r DU?

Rydyn ni’n ei ddefnyddio am y rhesymau a restrir. Ac oherwydd bod y ÃÛÑ¿´«Ã½ wedi’i ariannu’n fasnachol y tu allan i'r DU, mae ÃÛÑ¿´«Ã½ Global News Limited yn ei ddefnyddio i bersonoli eich profiad hysbysebu. Os byddai’n well gennych i ni beidio â defnyddio’ch gwybodaeth yn y ffordd yma, gallwch newid eich gosodiadau cwci.

Rhywedd

Rydyn ni'n gofyn i bawb â pha rywedd rydych chi'n uniaethu. Gallwch ddewis benyw, gwryw neu unrhyw derm arall yr hoffech ei ddefnyddio. Mae yna hefyd opsiwn os hoffech chi beidio â dweud.

Mae hyn yn ein helpu i weld sut mae pobl o ryweddau gwahanol yn defnyddio'r ÃÛÑ¿´«Ã½. Ynghyd â gwybodaeth am oedran a lleoliad pobl, mae'n ein helpu i wirio ein bod yn gwneud rhywbeth i bawb. Efallai y byddwn yn defnyddio hwn, ynghyd â gwybodaeth arall amdanoch chi, i roi gwybodaeth fwy perthnasol i chi ar draws y ÃÛÑ¿´«Ã½ ac mewn unrhyw e-byst rydych chi'n gofyn amdanyn nhw wrth y ÃÛÑ¿´«Ã½.

Lleoliad

Os ydych chi yn y DU ac yn 13 oed neu'n hÅ·n, byddwn yn gofyn am eich cod post.

Os ydych chi yn y DU ac yn iau na 13 oed, byddwn ni'n gofyn am eich tref, sef y lle rydych chi'n byw.

Rydyn ni’n defnyddio eich lleoliad:

  • i roi gwybodaeth leol berthnasol i chi ar-lein ac mewn unrhyw gylchlythyron e-bost rydych chi’n cofrestru ar eu cyfer.
  • at ddibenion dadansoddi ac ymchwil er mwyn i ni allu gwella'r gwasanaethau mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn eu cynnig. Gall hyn gynnwys defnyddio gwybodaeth geo-ddemograffig o ffynonellau allanol, lle bo hyn yn ein helpu i sicrhau ein bod ni'n gwneud rhywbeth i bawb.

Rydyn ni hefyd yn gofyn am eich cod post yn llawn, oherwydd ei fod yn ein helpu ni i ddeall sut mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cael ei ddefnyddio ar draws y wlad. Fel gwasanaeth cyhoeddus, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n gwneud rhywbeth bawb ac yn rhoi'r gwerth gorau am ffi'r drwydded. Gallwch ddarllen mwy am sut mae popeth a wnawn o fudd i chi, ein cynulleidfa, fan hyn.

Tu allan i’r DU?

Os ydych y tu allan i'r DU byddwn yn gofyn am eich gwlad breswyl yn lle hynny.

Rydyn ni’n ei ddefnyddio am y rhesymau a restrir. Ac oherwydd bod y ÃÛÑ¿´«Ã½ wedi’i ariannu’n fasnachol, mae ÃÛÑ¿´«Ã½ Global News Limited yn ei ddefnyddio hefyd i bersonoli hysbysebion. Os oes gennych gyfrif yn y DU, byddwch chi’n dal i weld hysbysebion ond ni fyddant yn cael eu personoli.

Os byddai’n well gennych i ni beidio â defnyddio’ch gwybodaeth yn y ffordd yma, gallwch newid eich gosodiadau cwci.

Ar gyfer beth y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol

Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn wasanaeth cyhoeddus. Mae'n rhaid i bopeth a wnawn fod o fudd i chi, ein cynulleidfa. Ac mae hynny'n cynnwys yr hyn rydyn ni’n ei wneud gyda’ch gwybodaeth bersonol.

Rydyn ni'n defnyddio’r wybodaeth hon, er eich budd chi, mewn dwy ffordd:

1. ÃÛÑ¿´«Ã½ mwy personol i chi

Mae'n ein helpu ni i wneud y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn fwy personol i chi. Mae’n golygu y gallwn:

  • Argymell pethau rydyn ni’n meddwl y byddwch chi’n eu hoffi
  • Dangos cynnwys sy'n berthnasol i lle’r rydych chi’n byw
  • Gwneud yn siŵr y gallwch chi ddefnyddio pethau sy'n briodol i’ch oedran.

2. Gwneud rhywbeth i bawb

Fel gwasanaeth cyhoeddus, mae angen i ni wneud rhywbeth i bawb.

Wrth i fwy o'n cynnwys gael ei ddefnyddio ar-lein, mae angen i ni ddeall pwy sy'n ei ddefnyddio. Mae pethau fel iPlayer yn rhoi mwy o ffyrdd i chi fwynhau cynnwys y ÃÛÑ¿´«Ã½. Ac er bod y rhain yn gadael i ni weld faint o bobl sy’n mwynhau’r pethau rydyn ni'n eu gwneud, nid ydyn nhw’n dweud dim wrthym ni amdanyn nhw. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd gwybod a ydyn ni’n gwneud rhywbeth i bawb.

Dyna pam ein bod ni’n gofyn i chi fewngofnodi a rhoi rhywfaint o wybodaeth.

Cadw eich gwybodaeth yn ddiogel

Ni fyddwn byth yn gwerthu eich manylion personol i unrhyw un a byddwn ond yn defnyddio eich data yn fasnachol os ydych yn defnyddio gwasanaeth ÃÛÑ¿´«Ã½ sy’n fasnachol. Ni fyddwn byth yn rhoi eich manylion personol i unrhyw un y tu allan i’r ÃÛÑ¿´«Ã½ heb eich caniatâd

Rhagor o wybodaeth am eich gwybodaeth a’ch preifatrwydd.

Rydyn ni'n rhannu rhywfaint o'ch manylion personol â Trwyddedu Teledu, er mwyn gweld os ydych chi'n defnyddio ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer ac i ddiweddaru ei fas-data. Mae mwy o wybodaeth yma ynglÅ·n â phryd ydych chi angen trwydded teledu.

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: