Hanes Caneuon Rhaglen 3
(nodiadau yn addasiad o wybodaeth a geir yn "Canu’r Bobol" gan Huw Williams)

Wyt Ti'n Cofio'r Lloer yn Codi
Cân i denor gan R.S. Hughes (gweler dan 'Cyfansoddwyr Yr Hen Ganiadau' isod) ar eiriau gan Ceiriog. Hon oedd cân gyntaf y cyfansoddwr, a dywed yn Cerddor y Cymry bod yr awdur wedi ei llunio pan oedd yn ddeunaw oed.
Y Tân Cymreig
Cân i denor neu Soprano gan William Jenkins, Penclawdd. Bu William Jenkins yn organydd ac yn gôr-feistr yng Nghapel Y Tabernacl (MC), Penclawdd am dros 50 mlynedd, a chyfansoddodd lawer o emyn donau, anthemau, cytganau ac unawdau. Mae'r geiriau gan David Rees (ap Rhidian), bardd ac awdur o Benclawdd.
Craig Yr Oesoedd
Cân yn wreiddiol i soprano neu denor gan George T. Llewelyn, er iddi ymddangos mewn cyweirnodau ar gyfer contralto a bâs hefyd, a chysylltir y gân yn bennaf gyda'r lleisiau yna bellach. Mae'r geiriau yn gyfieithiad Alafon o emyn adnabyddus Toplady yn y Saesneg "Rock of Ages". Roedd George T. Llewelyn ei hun yn ganwr adnabyddus yn ei ddydd, a chyfansoddwyd y gân er cof am ei gyfaill, Mr. E. T. Evans.
Y Dymestl
Cân i fariton gan R.S. Hughes (gweler dan 'Cyfansoddwyr Yr Hen Ganiadau' isod), a wobrwywyd yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1880, ar eiriau a briodolir i’r Banwr H.M. Edwards, Scranton, Pennsylvania. Bu'r geiriau yn ddarn adrodd poblogaidd ar un cyfnod, yn enwedig ar ôl iddynt ymddangos yn Llyfr Adrodd (John Morris Jones & T.J. Williams, Conwy, 1904), ac ambell dro fe'u hawlir i'r Parchedig T.C. Williams
Teyrnasoedd y Ddaear
Gosodiad o Salm 68 gan John Ambrose Lloyd ar gyfer Côr SATB, gan gynnwys triawd, pedwarawd ac unawd bâs yn ogystal. Ysgrifennwyd yn 1852 pan oedd y cyfansoddwr yn byw yn y Bwlch Bach, pentref ar lan Afon Conwy, a'i dyfarnu'n fuddugol (dan feirniadaeth J.D. Edwards a Thanymarian allan o ddeg o gystadleuwyr) yn Eisteddfod Bethesda 1852.
Canwyd y gwaith yn gyhoeddus am y tro cyntaf yn Aberystwyth ar Awst 31ain, 1852 gan Gôr y Tabernacl, dan arweiniad Edward Edwards. Credai'r Dr. Joseph Parry mai hi oedd yr anthem orau a ysgrifennwyd erioed ar eiriau Cymraeg, a disgrifiwyd ganddo fel "Hallelujah Chorus y Cymry".