
Mellt yn America
Y band indie-roc o Aberystwyth sy'n teithio i'r UDA i berfformio yn Efrog Newydd a Texas. Indie-rock band Mellt from Aberystwyth are off to the USA to perform in New York and Texas
Mae'r pedwarawd indie-roc o Aberystwyth yn teithio i'r Unol Daleithiau i berfformio yng Ngŵyl New Colossus yn Efrog Newydd, ac yna mynd ymlaen i chwarae yn South by South West (SXSW) yn Austin, Texas.
Yn y rhaglen hon, byddwn yn dilyn taith y band ac Elan Evans yn ystod eu cyfnod yn America, yn clustfeinio tu ôl i'r llen ar eu hanturiaethau o ddydd i ddydd, yn ogystal â'r perfformiadau cerddorol yn y gwyliau eiconig yma. Mae 'na lu o ffans Mellt yn yr Unol Daleithiau, ac mae drymiwr y band Jacob Hodges wedi ei eni yn Efrog Newydd, bydd yn cwrdd â'i nai am y tro cyntaf yn Lower East Side.
Bydd y band hefyd yn cwrdd a chymdeithasu gydag artistiaid eraill Cymreig fydd yn perfformio yn y gwyliau, ac yn ymweld â rhai o lefydd eiconig cerddoriaeth Efrog Newydd.