ѿý

Sut mae mewngofnodi trwy fy nheledu?

Diweddarwyd: 10 Ionawr 2023

Gallwch fewngofnodi ar y rhan fwyaf o setiau teledu er mwyn defnyddio ѿý iPlayer neu ѿý Sounds. Mae hyn i roi profiad mwy personol i chi, ac i sicrhau ein bod ni'n gwneud rhywbeth i bawb. Mwy o wybodaeth ynglŷn â pham rydyn ni'n gofyn i chi fewngofnodi.

Er mwyn mewngofnodi, yr unig beth sydd ei angen arnoch yw:

Dilynwch y camau yma er mwyn mewngofnodi ar eich teledu

  1. Agorwch ap y ѿý ar eich teledu.
  2. Dewiswch “Mewngofnodi”. Medrwch ddod o hyd i hwn yn Gosodiadau neu trwy ddewis yr eicon "Mewngofnodi" yn y fwydlen.
  3. Fe welwch dudalen gyda chyfarwyddiadau a cod. Bydd y cod yn 6 rhif o hyd.
  4. Nawr, ar eich ffôn, llechen neu gyfrifiadur, ewch i ymweld â 
  5. Os nad ydych eisoes wedi mewngofnodi ar eich ffôn, llechen neu gyfrifiadur, fe holir i chi fewngofnodi i'ch cyfrif ѿý. Heb gyfrif ѿý hyd yma? Cliciwch ar “Cofrestru” yn hytrach na “Mewngofnodi”.
  6. Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi ar eich ffôn, llechen neu gyfrifiadur, byddwn yn holi i chi nodi'r cod a ddangosir ar eich teledu.
  7. Rhowch y cod sydd ar eich teledu, ac yna gwasgwch “Cadarnhau” ac yna arhoswch am ychydig i'ch teledu adnewyddu. Dim ond rhyw 10 eiliad ddylai hyn gymryd.
  8. Bydd eich teledu yn dweud wrthych pan fydd hyn wedi ei wneud. Medrwch wedyn osod eich ffôn, llechen neu gyfrifiadur o'r neilltu a mynd ati i wylio'r teledu.

Beth os na fydd y teledu yn gweithio?

Dyma ambell beth i'w gadarnhau:

  • Gwnewch yn siŵr mai dim ond un person sy'n ceisio mewngofnodi gyda'r cod. Os bydd dau neu ragor o bobl yn ceisio defnyddio'r un cod, wnaiff e ddim gweithio.
  • Mae pob cod yn unigryw ac yn dod i ben ar ôl 60 munud. Os yw wedi bod ar eich sgrin deledu ers mwy na 60 munud, bydd angen i chi wasgu "Nôl" ac yna "Mewngofnodi" ar eich teledu er mwyn cael cod newydd.
  • Dylai'r cod fod yn 6 rhif. Gwnewch yn siŵr nad yw'n hirach nac yn fyrrach.
  • Os welwch chi neges yn dweud "Mae'n ddrwg gennym, mae rhywbeth o'i le ar hyn o bryd. Rhowch gynnig arall arni yn nes ymlaen" sy'n golygu ein bod yn cael trafferthion technegol. Bydd angen i chi roi cynnig arall arni yn nes ymlaen.

Rwy'n cael trafferth gyda fy nghyfrif

Mynnwch gip ar y tudalennau canlynol er mwyn cael cymorth ar sut i gofrestru, sut mae mewngofnodi, a sut i ddiweddaru manylion eich cyfrif.

 

Dim ond yn Saesneg y medrwn ni gynnig cymorth cyfrif. Ymddheuriadau.

Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: