Diweddarwyd y dudalen: 4 Ionawr 2022
Dyma hawl i symud data. Dyma'r hawl i ofyn am a lawrlwytho gwybodaeth bersonol rydych chi wedi ei rhoi i ni yn electronig, fel y gallwch:
- Ei symud
- Ei chopïo
- Ei chadw
Os oes gennych chi gyfrif ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae'n rhaid i chi wneud cais i weld pa wybodaeth sy'n bodoli amdanoch chi ar eich cyfrif ÃÛÑ¿´«Ã½. Wedyn, gallwch ei hanfon at gwmni arall os hoffech chi.
Beth am wybodaeth arall?
Mae hyn yn dibynnu ar beth rydych chi'n gofyn amdano. Bydd rhaid i chi gysylltu â ni a rhoi mwy o fanylion i'n helpu ni i ddod o hyd iddo. Yn dibynnu ar beth ydyw, yna gallwn drio ei roi i chi er mwyn ei rannu â chwmni arall.
Cofiwch, pan rydyn ni'n cysylltu'n ôl â chi, efallai y byddwn ni angen prawf adnabod er mwyn sicrhau mai chi yw chi.
Efallai fod yna achlysuron pan allwn ni ddim cwrdd â'ch gofynion.