Ar gyfer unrhyw ddefnydd sy’n gysylltiedig â busnes, bydd angen i chi gael ein caniatâd ni yn y lle cyntaf, ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi.
Pryd mae’r defnydd yn “ddefnydd busnes”?
Mae'n ddefnydd busnes os ydych chi’n defnyddio unrhyw un o'n gwasanaethau:
- Yn sylweddol i wneud eich gwaith - fel gweithiwr, contractwr neu ymgynghorydd
- At ddibenion masnachol - i wneud elw
- Ar gyfer defnydd addysgol, di-elw elusennol a gan y llywodraeth
Gofyn am ganiatâd i ddefnyddio cynnwys y ѿý fan hyn.
Mae rheolau ychwanegol ar gyfer busnesau ynghylch...
… Defnyddio metadata
Bydd angen trwydded arnoch i ddefnyddio ein metadata (fel delweddau, testun, cyfryngau a'r dolenni iddynt). Gwneud cais am drwydded metadata
...Defnyddio ѿý iPlayer
Gall pobl yn eich eiddo ddefnyddio iPlayer wylio rhaglenni’n fyw neu ar alw, neu eu lawrlwytho.
Ond bydd angen trwydded deledu arnoch. I gael gwybod mwy am hynny, ewch i
A bydd angen caniatâd arnoch os ydych eisiau defnyddio iPlayer i chwarae rhaglen neu glip i gynulleidfa. .
Chewch chi ddim codi tâl ar bobl i ddefnyddio iPlayer.
...Defnyddio ffrydiau RSS
Bydd angen i chi gael ein caniatâd ni yn y lle cyntaf i ddefnyddio ein ffrydiau RSS at ddibenion busnes, ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi.
Dyma pwy i gysylltu â nhw: