ÃÛÑ¿´«Ã½

Alla i ddefnyddio cynnwys y ÃÛÑ¿´«Ã½?

Diweddarwyd: 31 Mawrth 2022

Rydyn ni'n derbyn nifer fawr o geisiadau gan bobl a sefydliadau sydd eisiau defnyddio cynnwys y ÃÛÑ¿´«Ã½, gan gynnwys rhaglenni cyfan, clipiau, lluniau a chynnwys bbc.co.uk.

Pryd rydych chi angen caniatâd

I ddefnyddio unrhyw un o'r pethau yma...

  • Rhaglenni cyfan
  • Clipiau
  • Lluniau
  • Cynnwys
  • Ein logo neu fath arall o frandio
  • Metadata
  • Unrhyw beth sydd wedi’i dynnu o’n gwasanaethau i ddatblygu neu hyfforddi deallusrwydd artiffisial neu i wneud dadansoddiad cyfrifiadurol
  • Unrhyw beth arall sy’n cael ei ddiogelu gan hawlfraint
  • byddwch chi angen caniatâd.

Er weithiau, ni fyddwn yn gallu rhoi caniatâd i chi

...oherwydd dydyn ni ddim wastad yn berchen ar yr hawlfraint.

Mae ein cynnwys ni yn cynnwys gwaith pobl eraill yn aml. Er enghraifft, efallai bod yna ddelweddau, fideos a cherddoriaeth mewn rhaglenni teledu sy'n perthyn i artistiaid, actorion neu gerddorion. Neu efallai bod gennym drwydded i ddarlledu sioe, ond mai'r cwmni cynhyrchu sydd berchen arno.

Serch hynny, mae gennym beth cynnwys y gallwn roi caniatâd i chi ei ddefnyddio.

Rydyn ni'n aml yn derbyn ceisiadau am y pynciau isod. Darllenwch i weld beth allwn ni roi caniatâd i chi ei ddefnyddio.

Alla i chwarae rhaglen deledu neu radio cyfan i gynulleidfa?

Mae hynny’n dibynnu ar ble rydych chi ac ar gyfer beth rydych eisiau ei ddefnyddio.

Os ydych chi yn y DU a’i fod at ddibenion addysgol

Efallai y gallwch ddefnyddio rhaglenni cyfan neu glipiau at ddibenion addysgol os oes gan eich ysgol, coleg neu brifysgol drwydded Asiantaeth Recordiadau Addysgol (ERA).  i gael rhagor o wybodaeth.

Am wybodaeth ynglÅ·n â thrwyddedu rhaglenni yn eu cyfanrwydd at ddibenion addysgol, cysylltwch â ÃÛÑ¿´«Ã½StudiosLearning@bbc.com.

Ar gyfer unrhyw beth arall, cysylltwch â ni yma (dolen Saesneg) i ddweud beth rydych chi eisiau ei wneud, gan gynnwys:

  • Pwy ydych chi
  • Manylion eich sefydliad (os yw’n berthnasol), gan gynnwys sut rydych yn cael eich ariannu.

Alla i ddefnyddio delweddau a sgrin-luniau?

Bydd angen i chi ofyn am ganiatâd. Dyma sut i wneud...

I ofyn am brynu sgrin-luniau, anfonwch e-bost at dîm Gwerthiant ÃÛÑ¿´«Ã½ Motion Gallery.

I holi am ddefnyddio lluniau oddi ar wefan ÃÛÑ¿´«Ã½ News, anfonwch e-bost at dîm Caniatâd y Wefan Newyddion.

I holi am ddefnyddio unrhyw luniau rydyn ni’n berchen arnyn nhw, anfonwch e-bost at Lyfrgell Lluniau’r ÃÛÑ¿´«Ã½.

Cofiwch...

Nid ni sydd biau'r rhan fwyaf o'r lluniau a ffotograffau a'r wefan ÃÛÑ¿´«Ã½ News. Ond, yn aml, dangosir pwy bynnag sydd biau'r rhain yng nghornel y sgrin. Dyna pam nad ydyn ni’n gadael i chi ddefnyddio lluniau a ffotograffau oddi ar ÃÛÑ¿´«Ã½ News at ddibenion masnachol.

Alla i gael trawsgrifiad o raglen deledu?

Dydyn ni ddim yn gwneud trawsgrifiadau o’n rhaglenni, felly allwn ni ddim eu darparu. Ymddiheuriadau am hynny.

Ond, mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol am raglenni ar .

Alla i ddefnyddio clipiau o raglenni?

Os ydych chi’n byw yn y DU, efallai y gallwch ddefnyddio clipiau at ddibenion addysgol os oes gan eich ysgol, coleg neu brifysgol drwydded Asiantaeth Recordiadau Addysgol (ERA). Ewch i .

Hefyd, efallai y gallwch ddefnyddio clipiau o dan eithriadau addysgol yr hawlfraint. Ewch i dudalen  i gael rhagor o wybodaeth.

Am wybodaeth ynglÅ·n â thrwyddedu rhaglenni yn eu cyfanrwydd at ddibenion addysgol, cysylltwch â ÃÛÑ¿´«Ã½StudiosLearning@bbc.com.

Gallwch ofyn am wybodaeth am brynu clipiau at ddibenion masnachol drwy anfon e-bost at dîm Gwerthiant ÃÛÑ¿´«Ã½ Motion Gallery yn ÃÛÑ¿´«Ã½.MotionGallerySales@gettyimages.com.

Dal methu dod o hyd i ateb i'ch cwestiwn? Cysylltwch â ni yma i ofyn am ganiatâd (dolen Saesneg). Cofiwch ddweud:

  • Pwy ydych chi
  • Manylion eich sefydliad (os yw’n berthnasol), gan gynnwys sut rydych yn cael eich ariannu.

Alla i brynu copi o raglen rydw i wedi ymddangos ynddi?

Efallai bod modd i chi brynu copi. Cewch wybod sut ar ein tudalen Mynediad i Gyfranwyr.

Alla i ddefnyddio logo a brand y ÃÛÑ¿´«Ã½?

Mae’n dibynnu. Mae’n werth mynd i wefan Brandio’r ÃÛÑ¿´«Ã½ i gael gwybod yn iawn.

Alla i ailddefnyddio cynnwys oddi ar wefan ÃÛÑ¿´«Ã½?

Fel arfer, bydd angen i chi ofyn am ganiatâd.

I holi am ddefnyddio cynnwys oddi ar wefan ÃÛÑ¿´«Ã½ News anfonwch e-bost at dîm Caniatâd y Wefan Newyddion.

I ofyn am ddefnyddio cynnwys oddi ar safleoedd eraill y ÃÛÑ¿´«Ã½, cysylltwch yma (dolen Saesneg).

Cofiwch gynnwys gwybodaeth am yr hyn rydych chi eisiau e’i wneud â'r cynnwys a ble hoffech ei ddefnyddio.

Cofiwch...

Mae’n bosib bydd angen talu ffi.

Alla i ddefnyddio metadata a ffrydiau RSS y ÃÛÑ¿´«Ã½?

Mae'n dibynnu ar gyfer beth mae ei angen...

Ar gyfer pobl

Nid oes gennych hawl i dynnu metadata o’n cynnwys neu ffrydiau RSS.

Gallwch ychwanegu ffrwd RSS ÃÛÑ¿´«Ã½ News at eich gwefan neu gyfrif cyfryngau cymdeithasol. Ar yr amod:

  • Nad ydych yn newid y ffrwd RSS neu’n tynnu unrhyw un o’n brandiau neu logos
  • Eich bod yn rhoi cydnabyddiaeth i ni drwy ddweud ei fod yn dod o ÃÛÑ¿´«Ã½ News, bbc.co.uk/news neu bbc.com/news gan roi’r testun a’r hyperddolen mewn lle amlwg gerllaw
  • Nad ydych yn ychwanegu ein brandiau, logos ac ati, ar wahân i unrhyw frandio sydd eisoes wedi’i fewnblannu i’r ffrwd RSS.

Darllenwch sut i greu ffrwd RSS ÃÛÑ¿´«Ã½ News fan hyn.

Ar gyfer busnes

Bydd angen trwydded arnoch i ddefnyddio ein metadata (fel delweddau, testun, cyfryngau a’r dolenni iddynt). Gwnewch gais am drwydded metadata.

I ddefnyddio ein ffrydiau RSS at ddibenion busnes, bydd angen i chi gael caniatâd, ac efallai y bydd angen talu ffi

Ydi hi’n iawn darparu dolen i wefannau’r ÃÛÑ¿´«Ã½?

Ydi, mae'n iawn i chi gysylltu ag URL ein gwefan ar yr amod nad ydych chi’n defnyddio logo'r ÃÛÑ¿´«Ã½. Os ydych chi'n dymuno defnyddio logo’r ÃÛÑ¿´«Ã½ mae rhagor o wybodaeth yma.

Sylwch hefyd fod allbwn ein gwefan yn newid dros amser, felly gallai'r hyn y byddwch chi’n cysylltu ag ef fod wedi newid neu efallai na fydd ar gael ar ôl cyfnod penodol o amser.

Alla i ailddefnyddio cynnwys y ÃÛÑ¿´«Ã½ ar gyfer fy musnes?

Yn y lle cyntaf, bydd angen i chi gael ein caniatâd ar gyfer unrhyw ddefnydd busnes, ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi. Ceir mwy o fanylion fan hyn.

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: