ÃÛÑ¿´«Ã½

Adroddiad Blynddol y ÃÛÑ¿´«Ã½: Y ÃÛÑ¿´«Ã½ yng nghymru yn 'mynd o nerth i nerth'

Date: 16.07.2012     Last updated: 23.09.2014 at 09.48

Mae Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y ÃÛÑ¿´«Ã½ ar gyfer 2011/12, a gyhoeddwyd heddiw, yn nodi’r hyn a gyflawnwyd dros gynulleidfaoedd yng Nghymru gan y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

O ran rhaglenni, roedd uchafbwyntiau'r flwyddyn yn cynnwys The Story of Wales, a gyflwynwyd gan Huw Edwards. Hon oedd yr ail raglen mwyaf poblogaidd o blith yr hollÌý raglenni a ddangoswyd ar ÃÛÑ¿´«Ã½ One yng Nghymru yn ystod y flwyddyn.Ìý Eleni hefyd gwelwyd y rhaglenni cyntaf a gynhyrchwyd yn safle cynhyrchu drama'r ÃÛÑ¿´«Ã½ ym Mhorth y Rhath ym Mae Caerdydd, gyda Casualty yn ymuno â Sherlock, Merlin ac Upstairs Downstairs. Mae opera sebon hynaf y ÃÛÑ¿´«Ã½, Pobol y Cwm, wedi cael blwyddyn dda ers symud y cynhyrchu i Borth y Rhath, gan gynnal cynulleidfaoedd mawr o 51,000 y rhaglen yn dilyn pum mlynedd o dwf cyson.

O ran y newyddion, gwyliodd mwy na hanner yr holl oedolion yng Nghymru (1.4 miliwn) o leiaf un bwletin ÃÛÑ¿´«Ã½ Wales Today bob wythnos, cynnydd o'r 1.2 miliwn llynedd.Ìý Ac ym mlwyddyn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru teithiodd ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Wales y wlad gan ystyried y materion o bwys. Hefyd, bu ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru Wales yn gyfrifol am ddarllediadau cynhwysfawr o Eisteddfod Genedlaethol 2011 yn Wrecsam ar Radio Cymru, S4C ac ar-lein, a werthfawrogwyd yn fawr gan gynulleidfaoedd ledled Cymru.

Eleni, daeth y ÃÛÑ¿´«Ã½ ac S4C i gytundeb ynghylch cyllido a rheoli S4C yn y dyfodol gan y bydd S4C yn cael ei ariannu'n bennaf o ffi'r drwydded o 2013 ymlaen.Ìý Mae'r trefniadau yn amddiffyn annibyniaeth olygyddol a rheolaethol S4C, tra'n sicrhau atebolrwydd priodol i Ymddiriedolaeth y ÃÛÑ¿´«Ã½ am sut bydd y gwasanaeth yn gwario ffi'r drwydded.

Dywedodd Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr Cymru y ÃÛÑ¿´«Ã½:

"Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yng Nghymru wedi mynd o nerth i nerth eleni gyda rhaglenni gwych i gynulleidfaoedd yng Nghymru a ledled y DU, a'r ganolfan newydd ym Mhorth y Rhath yn dod yn bwerdy cynhyrchu.Ìý Mae'r cytundeb newydd rhwng y ÃÛÑ¿´«Ã½ ac S4C hefyd yn newyddion da i gynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith ac yn rhoi mwy o gyfleoedd i gydweithio yn y dyfodol.

"Wrth edrych ymlaen, fe fyddwn yn parhau i ystyried anghenion a phryderon cynulleidfaoedd Cymru wrth i'r newidiadau yn sgil strategaeth newydd y ÃÛÑ¿´«Ã½, Darparu Ansawdd yn Gyntaf, gael eu gweithredu ledled y ÃÛÑ¿´«Ã½."

Heddiw hefyd cyhoeddwyd yr arolwg o berfformiad y ÃÛÑ¿´«Ã½ yng Nghymru a wnaethpwyd gan gorff ymgynghorol annibynnol yr Ymddiriedolaeth, Cyngor Cynulleidfa Cymru.Ìý Roedd hwnnw yn croesawu agor canolfan gynhyrchu newydd Porth y Rhath ar amser ac o fewn y gyllideb, ac yn croesawu’r cytundeb newydd gydag S4C.

Hefyd, amlinellodd y Cyngor flaenoriaethau i'w hystyried gan yr Ymddiriedolaeth ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, yn cynnwys cynyddu nifer y straeon newyddion cymharol er mwyn adlewyrchu’r gwahaniaethau polisi a chyfreithiol yng ngwledydd gwahanol y DU; a'r angen i ddiogelu a chryfhau gwasanaethau craidd y ÃÛÑ¿´«Ã½ sydd wedi'u hanelu'n benodol at Gymru.

Mynegodd y Cyngor Cynulleidfa bryder difrifol am ddiffyg argaeledd ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Wales a Radio Cymru ar DAB , a phryder am yr effaith ar raglenni penodol i Gymru gan ÃÛÑ¿´«Ã½ Wales ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Two gyda’r bwriad i gychwyn sianel ÃÛÑ¿´«Ã½ Two HD. Ond hefyd cydnabu’r gwaith oedd wedi ei wneud er mwyn cynyddu argaeledd ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Wales ar FM , sydd erbyn eleniÌý yn uwch nag 80 y cant am y tro cyntaf erioed.

Nodiadau i Olygyddion:

Gellir gweld Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y ÃÛÑ¿´«Ã½ ar gyfer 2011/12 yn: www.bbc.co.uk/annualreportÌý

Gellir gweld Arolwg Cyngor Cynulleidfa Cymru yn:

http://www.bbc.co.uk/bbctrust/who_we_are/audience_councils/wales/annual_review.html?lang=cy