Delwedd: cyflwynwyr Blue Peter Shini Muthukrishnan, Joel Mawhinney ac Abby Cook
Yn 2023/24, daeth ein hymrwymiad amrywiaeth greadigol tair blynedd i fuddsoddi o leiaf £112 miliwn o gyllidebau comisiynu presennol ar gynnwys amrywiol a chynrychioliadol (gyda’r meini prawf yn cynnwys portreadau ar yr awyr, arweinwyr cynhyrchu oddi ar yr awyr a/neu arweinwyr cwmni) ar y teledu a radio, ynghyd â cheisio ymrwymiad amrywiaeth oddi ar y sgrin o 20% gan ein cyflenwyr cynhyrchu teledu, i ben.
Dyma’r buddsoddiad ariannol mwyaf yn y diwydiant i sicrhau cynnwys amrywiol, gan edrych mewn modd cyfannol ar gynrychiolaeth ar yr awyr ac oddi ar yr awyr. Rydym yn falch ein bod wedi dyblu’r gwariant hwn dros y cyfnod o dair blynedd, gan fuddsoddi £243 miliwn o gyllidebau comisiynu presennol. Hefyd, mae 82% o’r holl gynyrchiadau teledu yn cyrraedd neu’n rhagori ar y targed o 20% oddi ar y sgrin.
Rydym wedi gweld effaith sylweddol dod ynghyd fel diwydiant drwy TV Access Project, wrth i ni gydweithio i sicrhau gwell cynrychiolaeth a chynhwysiant i dalent fyddar, anabl a niwrowahanol.
Rydym hefyd wedi cymryd camau ystyrlon a phwysig o ran hygyrchedd ein cynnwys ar gyfer cynulleidfaoedd o ddefnyddioldeb a phrofiad defnyddwyr i nodweddion fel isdeitlau, disgrifiadau sain ac Iaith Arwyddion Prydain.
Ym mis Medi 2024, gwnaethom gyhoeddi fersiwn nesaf ein hymrwymiadau o ran amrywiaeth greadigol, sy’n rhan allweddol o’n strategaeth.

Rhoi ein strategaeth ar waith: cynnwys
Ymysg rhai o’n meysydd ffocws allweddol mae:
Ysgogi cynrychiolaeth ar yr awyr ac oddi ar yr awyr drwy:
- fuddsoddi o leiaf £80 miliwn y flwyddyn mewn cynnwys sy’n bodloni meini prawf amrywiaeth greadigol y ÃÛÑ¿´«Ã½ ar gyfer Teledu a Radio
- gwella ein ffocws ar sicrhau bod y straeon amrywiol a adroddir ar yr awyr yn adlewyrchu cynrychiolaeth gryfach oddi ar yr awyr mewn uwch-rolau cynhyrchu ac arweinyddiaeth mewn cwmnïau cynhyrchu
- dwyn ein hunain i gyfrif drwy adrodd yn flynyddol o’r newydd, gyda mwy o benodoldeb yn hytrach na grwpio nodweddion amrywiol
- codi targedau cynrychiolaeth ar gyfer timau cynyrchiadau teledu ar draws ethnigrwydd, anabledd ac amrywiaeth economaidd-gymdeithasol o 20% i 25% ar draws yr holl rolau cynhyrchu
Creu diwylliant cynhwysol ar bob cynhyrchiad drwy ein Hegwyddorion Cynhyrchu Cynhwysol:
- gwallt a cholur: Bydd cynyrchiadau’n darparu gweithwyr gwallt a cholur i weithio gyda gwallt ansawdd affro ac amrywiaeth o liwiau croen
- cynyrchiadau hygyrch: Ymgorffori canllawiau o TV Access Project ar draws y diwydiant ar bob cynhyrchiad, gan gynnwys cydlynwyr mynediad, hygyrchedd lleoliadau set a chanolfannau ôl-gynhyrchu
- addysg a gwybodaeth am amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant: Mynediad i addysg, hyfforddiant ac adnoddau ar amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant ar bob cynhyrchiad er mwyn meithrin diwylliant o gynhwysiant a thryloywder
Adeiladu ar ein partneriaethau presennol yn y diwydiant drwy:
- gefnogi talent cynhyrchu a dangynrychiolir a chynyrchiadau a arweinir gan amrywiaeth, er enghraifft drwy Elevate a’r Gronfa i Gwmnïau Annibynnol Bach
- cydweithredu ar ymyriadau ar draws y diwydiant, fel TV Access Project

Sbotolau ar gynnwys
Y tair rôl hanfodol y bydd y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn eu blaenoriaethu er mwyn sicrhau gwerth i bob cynulleidfa yw canfod y gwirionedd heb agenda, cefnogi’r prosesau adrodd straeon cartref gorau a dod â phobl ynghyd. Mae’r tair yn dibynnu ar y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn pennu’r safonau uchaf posibl ar gyfer amrywiaeth a chynhwysiant, ar yr awyr ac oddi ar yr awyr. Y flwyddyn hon, mae’r ÃÛÑ¿´«Ã½ wedi cynhyrchu rhaglenni sydd wedi ennill gwobrau sydd â chynhwysiant a dilysrwydd yn rhan greiddiol ohonynt.
Dangosodd llu o gynyrchiadau safonau uchel o ran amrywiaeth a chynhwysiant a mwy o gynrychiolaeth wrth i deitlau fodloni ein meini prawf o ran amrywiaeth greadigol sef portreadu, cynrychiolaeth ar lefel uwch-arweinwyr cynhyrchu a/neu arweinwyr cwmni.

O ran cynnwys Wedi’i Sgriptio, cynhyrchodd ÃÛÑ¿´«Ã½ Comedi raglenni sy’n portreadu cymeriadau a sefyllfaoedd sy’n ddoniol ac yn herio stereoteipiau, gan gynnwys Dreaming Whilst Black, Juice a Man Like Mobeen, y mae gan bob un ohonynt gynrychiolaeth gref ar y sgrin ac oddi ar y sgrin. Mae’n bleser gennym feithrin actorion a phobl greadigol o Brydain sy’n ennill eu tir, wrth i Gbsemisola Ikumelo (Black Ops) a Mawaan Rizwan (Juice) ennill gwobrau BAFTA ac RTS am eu perfformiadau. Mae’r teitlau hyn wedi cael eu hadnewyddu, gan dynnu sylw at ein hymrwymiad i gomedïau sy’n adrodd straeon a dangynrychiolir. O ran Drama, mae’r teitlau y mae cynrychiolaeth a dilysrwydd yn rhan greiddiol ohonynt yn cynnwys Boarders, Waterloo Road a Best Interests, a ysgrifennwyd gan Jack Thorne.
O ran cynnwys Heb ei Sgriptio, rydym hefyd wedi gweld effaith cynnwys sy’n cysylltu pobl ac yn denu cynulleidfaoedd amrywiol ifanc, wrth i deitlau fel Gladiators a The Traitors gael eu canmol gan wylwyr, yn enwedig teuluoedd, am gynrychiolaeth gynhwysol o ran y cast a’r cyfranwyr.
Mae ein prosesau adrodd straeon arloesol yn parhau i’n gosod ar wahân, ac mae teitlau fel Once Upon a Time in Northern Ireland, a enillodd wobrau Grierson ac RTS, a Rose Ayling-Ellis: Signs for Change, yn dangos hyn.
Mae CBeebies Bedtime Stories yn parhau i ddangos cryfder cynrychiolaeth wrth gyrraedd ein cynulleidfaoedd amrywiol gyda darllenwyr fel Abtaha Maqsood, Mr Motivator, Carlos Gu a Lenny Rush. Y flwyddyn hon, dathlodd Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar gyda’r darllenydd newydd Rayane Cordell o Dog Squad a’i gi clywed.
Fel rhan o’n harlwy sain, mae Ability Radio 4 yn rhaglen gomedi sefyllfa wedi’i hysgrifennu a’i pherfformio gan actorion a digrifwyr anabl sy’n adrodd hanes Matt y mae ganddo barlys yr ymennydd. Mae ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio 1Xtra yn parhau i hyrwyddo diwylliant Du Prydeinig. Dathlodd The Carnival Family arwyr anhysbys Carnifal Notting Hill.

Mae Brown Girls Do It Too ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Sounds yn dathlu hunaniaethau drwy sgyrsiau gonest a doniol.
Mae hygyrchedd ein cynnwys wedi bod yn faes ffocws allweddol i ni. Cafodd y gyfres 20 mlwyddiant o Strictly Come Dancing ei harwyddo’n fyw am y tro cyntaf gan alluogi cynulleidfaoedd sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain i ymgysylltu’n llwyr â’r rhaglen a chymryd rhan yn y pleidleisio. Mae gan bob pennod o Doctor Who ar iPlayer isdeitlau, disgrifiadau sain ac arwyddo erbyn hyn. Rydym wedi sicrhau bod digwyddiadau byw fel Glastonbury ac Eurovision yn hygyrch. Mae fersiwn wedi’i harwyddo o Newsround hefyd ar gael i’w gwylio bob diwrnod yn ystod yr wythnos i blant sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.