Delwedd: Dau aelod o staff y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn stiwdio ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio 2
Uchelgeisiau o ran y gweithlu
Yn bennaf oll, ein nod yw denu, cyflogi a chadw’r talentau gorau posibl yn y ÃÛÑ¿´«Ã½ ni waeth beth fo’u cefndir.
Er bod ein huchelgais i gynyddu cynhwysiant a pherthyn yn berthnasol i’r ÃÛÑ¿´«Ã½ cyfan, gan gynnwys yn rhyngwladol, yn y DU cawn ein harwain hefyd gan ein nodau uchelgeisiol i sicrhau gweithlu amrywiol, er mwyn ein helpu i ddatblygu ÃÛÑ¿´«Ã½ sy’n adlewyrchu siâp a chyfansoddiad y DU a’r cynulleidfaoedd a wasanaethir gennym. Mae’r gynrychiolaeth gywir yn y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn ein helpu i sicrhau’r gynrychiolaeth a’r portreadau cywir yn ein cynnwys.
Mae ein nodau yn gweithredu fel canllaw, wedi’i gynllunio i helpu i sicrhau ein bod yn recriwtio o’r gronfa ehangaf posibl o dalent a dangos bod y ÃÛÑ¿´«Ã½ i bawb, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn ystyried ei fod yn le iddyn nhw ar hyn o bryd o bosibl. Rydym yn ceisio chwalu rhwystrau er mwyn sicrhau bod pawb yn cael cyfle i ymuno â’r ÃÛÑ¿´«Ã½ a ffynnu ynddo.
Yn 2021 gwnaethom ymrwymo i fod yn sefydliad 50:20:12 modern, sef 50% o fenywod a 50% o ddynion, 20% o bobl o gefndir Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol a 12% o staff anabl, erbyn mis Mawrth 2026.
Yn 2022 gwnaethom ddweud y bydd 25% o’r staff yn dod o gefndiroedd dosbarth gweithiol erbyn 2027.
Mae ein ffigurau archwiliedig diwethaf o Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2024 yn dangos bod ein gweithlu yn cynnwys:
- 50.1% o fenywod
- 49% o arweinwyr sy’n fenywod
- 17% o staff Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol
- 14.4% o arweinwyr Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol
- 9.4% o staff anabl
- 7.9% o arweinwyr anabl
- 21.1% o staff dosbarth gweithiol
- 19.3% o arweinwyr dosbarth gweithiol

Adeiladu ar ein cynnydd
Rydym yn falch o’r cynnydd a wnaed, ond gwyddom fod gennym fwy i’w wneud i sicrhau ein bod wir yn cynrychioli’r cynulleidfaoedd a wasanaethir gennym, yn enwedig ym meysydd ethnigrwydd ac anabledd.
Gwyddom hefyd ei bod yn bosibl nad yw’r labeli rydym yn eu defnyddio i bennu’r nodau hyn ar gyfer y gweithlu yn cynrychioli’r ffordd y mae pawb yn dewis disgrifio eu hunain. Mae’r grwpiau hyn yn bwysig er mwyn dwyn ein hunain i gyfrif, adrodd ar ein cynnydd a sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar chwalu’r rhwystrau a wynebir gan bobl o gefndiroedd gwahanol. Rydym hefyd yn edrych ar sut rydym yn cynrychioli ac yn adlewyrchu ein cynulleidfaoedd yn ehangach, er enghraifft, sicrhau bod ein staff LGBTQ+, grwpiau ffydd a phobl o wahanol oedrannau yn teimlo ymdeimlad o berthyn yn y ÃÛÑ¿´«Ã½.
Mae’n briodol ein bod yn adolygu ein cynlluniau bob amser ac fel rhan o’r cam nesaf hwn o’n strategaeth, byddwn yn sicrhau bod ein cynlluniau yn cyd-fynd â chyfnod newydd y Siarter, gyda’r nod o gyflawni ein holl nodau erbyn 2027.
Hefyd, er mwyn cyd-fynd ag arferion gorau’r diwydiant a rhoi mwy o amlygrwydd i’n staff niwrowahanol, o 2025/26 byddwn yn mesur canran y cydweithwyr sy’n anabl, ynghyd â’r rheini sy’n fyddar a/neu’n niwrowahanol. Mae hyn yn golygu y caiff ein nod anabledd o 12% ei ddisodli gan darged newydd o 14% sy’n mesur y cyfanswm cyfunol o staff byddar, anabl a/neu niwrowahanol. Rydym wedi gwella rhaglen ÃÛÑ¿´«Ã½ Extend i’n helpu i gyflawni’r lefel hon o gynrychiolaeth.
Yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010, mae Extend yn darparu rolau wedi’u neilltuo ar gyfer pobl anabl a all gynnwys y rhai sy’n nodi eu bod yn fyddar a/neu’n niwrowahanol. Hefyd, rydym yn adolygu ac yn gwella prosesau i alluogi pob cydweithiwr i gael yr addasiadau sydd eu hangen cyn gynted ag y bo modd.

Rhoi ein strategaeth ar waith: Ein Gweithlu
Ymysg rhai o’n meysydd ffocws allweddol drwy gydol cyfnod y strategaeth hon mae:
Adlewyrchu ein cynulleidfaoedd yn ein gweithlu drwy:
- alluogi arferion recriwtio a chynefino mwy cynhwysol er mwyn sicrhau ein bod yn denu’r gronfa ehangaf posibl o dalent amrywiol
- parhau â’n ffocws i recriwtio Prentisiaid Gyrfaoedd Cynnar o gefndiroedd amrywiol ledled y Deyrnas Unedig drwy ein rhaglen glodwiw
- gwella ein cyfleoedd i ddatblygu a gwneud cynnydd drwy ehangu effaith ein mentrau datblygu gyrfaoedd gan gynnwys 80/20 a Hot Shoes
- ailgadarnhau ein hymrwymiad i ÃÛÑ¿´«Ã½ Extend, ein rhaglen flaenllaw i neilltuo rolau yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010 ar gyfer pobl anabl, a all gynnwys y rhai sy’n nodi eu bod yn fyddar a/neu’n niwrowahanol.
- Adeiladu ar lwyddiant RISE ac Elev8 – ein rhaglenni i ddatblygu talent o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol a phobl fyddar, anabl a/neu niwrowahanol.
Creu amgylcheddau gweithio cynhwysol a hygyrch drwy:
- gyflwyno hyfforddiant ar Arweinyddiaeth Gynhwysol i reolwyr a hyfforddiant newydd i staff er mwyn sicrhau bod amrywiaeth yn cael ei gwerthfawrogi a bod pawb yn cael ei annog a’i gefnogi i gymryd rhan lawn
- adolygu a diweddaru ein polisïau a gweithdrefnau er mwyn sicrhau eu bod yn hyrwyddo cynhwysiant ac yn rhoi’r cymorth cywir
- sicrhau dyluniadau, diwylliannau a dulliau cyfathrebu hygyrch a chynhwysol, gyda chymorth gwell i’r gweithlu a phroses wedi’i symleiddio i sicrhau addasiadau, gan gynnwys technoleg gynorthwyol (gyda hyfforddiant priodol) ar gyfer ein staff byddar, anabl a/neu niwrowahanol
- rhoi hygyrchedd wrth wraidd ein trawsnewidiad digidol a sicrhau ei fod yn elfen sylfaenol o brofiad defnyddwyr a chylch oes cynnyrch
Ceisio barn ein cydweithwyr er mwyn gwella’r ffordd rydym yn gweithio drwy:
- wella effeithiolrwydd ein Rhwydweithiau Staff drwy gynnig adnoddau a strwythurau newydd, gyda chymorth y Noddwyr Gweithredol a Chyfarwyddwyr Adnoddau Dynol
- parhau i wella profiad ein staff, drwy feithrin dealltwriaeth well o’r rhwystrau i gynhwysiant a’r ffactorau sy’n galluogi cynhwysiant ar gyfer ein staf

Rhoi ein strategaeth ar waith: ein rhwydweithiau staff a’n grwpiau cymunedol
Mae ein rhwydweithiau staff wrth wraidd y broses o greu ymdeimlad o berthyn yn y ÃÛÑ¿´«Ã½
Rydym yn eithriadol o falch o’n naw rhwydwaith staff sy’n ffynnu, ac sydd â mwy nag 11,000 o aelodau i gyd erbyn hyn. Maent yn chwarae rhan hanfodol wrth feithrin cyd-ddealltwriaeth, cydweithrediad a dathliad ar y cyd o’n cymunedau unigryw ym mhob rhan o’r sefydliad.
Mae ein rhwydweithiau’n adlewyrchu anghenion ein staff, yn ymateb i newidiadau cymdeithasol ac yn ein helpu i ddeall sut y gallwn helpu pawb i wireddu eu potensial a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi yma. Yn fwy diweddar, gwnaethom gyflwyno rhwydwaith Enigma i staff niwrowahanol, ac fel rhan o ÃÛÑ¿´«Ã½ Embrace, ein rhwydwaith amlddiwylliannol, rydym wedi ychwanegu’r Rhwydwaith Staff Iddewig a ÃÛÑ¿´«Ã½ Salaam ar gyfer staff Mwslimaidd. Mae gennym rwydweithiau anffurfiol hefyd fel ein rhwydwaith Gyrfaoedd, ein rhwydwaith Atal Dweud a grwpiau cymunedol eraill gan gynnwys hybiau ledled y Deyrnas Unedig ac yn ÃÛÑ¿´«Ã½ Studio

Gweithgareddau rhwydweithiau staff
Dros y flwyddyn, mae ein rhwydweithiau’n cynnal digwyddiadau a sesiynau gwrando ar gyfer eu haelodau. Mae digwyddiadau diweddar wedi cynnwys trafodaeth banel ‘Is Class Still a Thing?’ ein rhwydwaith amrywiaeth economaidd-gymdeithasol, ÃÛÑ¿´«Ã½ RAISED; i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod cyflwynodd ein tri rhwydwaith i fenywod sesiwn ‘How Your Identity Is Your Superpower’; cynhaliodd ÃÛÑ¿´«Ã½ Ability, ein rhwydwaith staff anabl, Rethink Disability Festival i nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl; a chynhaliodd y Rhwydwaith Talent Ifanc ddigwyddiad ar draws y diwydiant gyda Sky, NBC Universal a Warner Bros Discovery i gefnogi prosesau rhwydweithio a thrafod materion sy’n berthnasol i bobl ifanc yn y diwydiant cyfryngau.
Cefnogi ein rhwydweithiau staff
Caiff pob un o’r naw rhwydwaith ffurfiol eu cefnogi gan uwch-gynrychiolydd Adnoddau Dynol a Noddwr Gweithredol, ynghyd â phrosesau llywodraethu clir ac adnoddau i gefnogi eu twf a’u heffaith.
Mae cyd-gadeiryddion ein rhwydweithiau staff canolog bellach yn cael hyfforddiant arbenigol ac mae 20% o’u hamser gweithio wedi’i ddiogelu ar gyfer eu gweithgarwch rhwydwaith staff. Mae llawer o aelodau bwrdd rhwydweithiau staff wedi cael budd o’u profiadau ac wedi symud ymlaen i weithio mewn rolau mwy heriol.