Rydych yn darparu rhywfaint o wybodaeth eich hun
Er enghraifft, pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer cyfrif ÃÛÑ¿´«Ã½:
- Mae'n rhaid i unrhyw un o dan 13 oed roi eu dyddiad geni, eu tref enedigol a dewis enw defnyddiwr
- Mae'n rhaid i unrhyw un 13 oed a throsodd roi eu cyfeiriad e-bost, cod post a dyddiad geni.
- Rydyn ni'n gofyn i bawb â pha rywedd rydych chi'n uniaethu. Gallwch ddewis benyw, gwryw neu unrhyw derm arall yr hoffech ei ddefnyddio. Mae yna hefyd opsiwn os hoffech chi beidio â dweud
Rydyn ni’n casglu rhywfaint o wybodaeth yn awtomatig
Fel eich cyfeiriad IP, pa borwr a dyfais rydych yn ei ddefnyddio, neu ID eich dyfais. A gallwn ni ddweud pa dudalen we a’ch cyfeiriodd at y ÃÛÑ¿´«Ã½ drwy edrych ar wybodaeth o’ch porwr.
Rydyn ni'n casglu peth gwybodaeth er mwyn deall sut rydych chi'n defnyddio'r ÃÛÑ¿´«Ã½ ar-lein er mwyn rhoi ÃÛÑ¿´«Ã½ gwell i chi. Os ydych chi wedi mewngofnodi, mae eich cyfrif ÃÛÑ¿´«Ã½ yn eich caniatáu i bersonoli eich profiad o'r ÃÛÑ¿´«Ã½ ar-lein.
Gall unrhyw un o apiau’r ÃÛÑ¿´«Ã½ ar eich ffôn, tabled neu deledu storio gwybodaeth ar eich dyfais. A gallwn gael mynediad at y wybodaeth honno. A phan fyddwch chi’n gofyn am dywydd neu newyddion lleol, gallwch ddewis a ydych am roi mynediad i ni at leoliad eich dyfais.
Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth am bethau rydych yn eu hychwanegu
Er enghraifft, os ydych yn ychwanegu sioeau yn ÃÛÑ¿´«Ã½ Sounds er mwyn gwrando arnyn nhw nes ymlaen ac i dderbyn y penodau diweddaraf wrth iddyn nhw gael eu rhyddhau.
Sut mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn defnyddio fy ngwybodaeth?
Gwybodaeth bersonol
Mae gwybodaeth ynglÅ·n â'ch rhywedd, oed a lleoliad yn ein helpu i weld sut mae gwahanol bobl yn defnyddio'r ÃÛÑ¿´«Ã½ ac i sicrhau ein bod ni'n gwneud rhywbeth i bawb.
Ffordd arall rydyn ni'n gwirio'ch lleoliad cyfredol yw trwy eich cyfeiriad IP (Protocol Rhyngrwyd) a gwybodaeth arall am eich dyfais.
Rydyn ni’n defnyddio rhywfaint o’ch gwybodaeth bersonol i ddarparu ein gwasanaethau, rhoi argymhellion i chi am bethau y byddwch chi'n eu hoffi, ac i bersonoli rhannau o’r ÃÛÑ¿´«Ã½, gan gynnwys hysbysebion pan fyddwch yn defnyddio’r ÃÛÑ¿´«Ã½ y tu allan i’r DU.
Hysbysebu ar wefannau eraill
Efallai y byddwn yn dangos negeseuon hyrwyddo wedi’u personoli ar safleoedd eraill. Er enghraifft, roi gwybod i chi am raglen newydd all fod o ddiddordeb i chi.
Alla i weld hanes popeth rydw i wedi’i wylio?
Pan fyddwch wedi mewngofnodi, bydd adran Fy Rhaglenni yn iPlayer yn dangos unrhyw raglenni rydych wedi’u gwylio’n rhannol. Felly gallwch barhau ag unrhyw beth nad ydych wedi’i orffen. Neu ddod o hyd i’r rhaglen nesaf mewn cyfres rydych wedi bod yn ei gwylio.